Folk Tale
Y blaidd a’r myn
| Title | Y blaidd a’r myn |
|---|---|
| Book Author | Αἴσωπος |
| Chapter Nr. | 008 |
| Language code | cym |
Myn Gafr yn sefyll ar ben tŷ uchel, a ganfu Flaidd yn pasio heibio isod, ac a ddechreuodd ei senu. Ni wnaeth y Blaidd ond edrych arno, a dyweyd, “Y cachgi gwael! nid tydi sydd yn fy nifrio, ond y lle yr ydwyt yn sefyll arno.” Y rhai a ymosodant ar gymmeriadau, pan y gallant wneyd hyny yn ddigerydd, y distadlaf o ddynion ydynt.
Text view • Book