Folk Tale

Yr olwynion yn gwichian

TitleYr olwynion yn gwichian
Book AuthorΑἴσωπος
Chapter Nr.026
Language codecym

Fel yr oedd gwêdd o Ychain yn llusgo Gwagen llwythog ar hyd ffordd drom, dechreuodd yr Olwynion wichian yn rhyfedd. “Adyn,” ebe y Gyrwr wrth y Wagen, “paham yr wyt ti yn gruddfan cymmaint, pan y mae y rhai sydd yn llusgo yr holl bwysau yn berffaith ddistaw?”

Nid y rhai sydd yn gwaeddi allan uwchaf, sydd bob amser yn cael mwyaf o gam.


Text viewBook