Folk Tale

Y blaidd a’r myn

TitleY blaidd a’r myn
Book AuthorΑἴσωπος
Chapter Nr.008
Language codecym

Myn Gafr yn sefyll ar ben tŷ uchel, a ganfu Flaidd yn pasio heibio isod, ac a ddechreuodd ei senu. Ni wnaeth y Blaidd ond edrych arno, a dyweyd, “Y cachgi gwael! nid tydi sydd yn fy nifrio, ond y lle yr ydwyt yn sefyll arno.” Y rhai a ymosodant ar gymmeriadau, pan y gall­ant wneyd hyny yn ddigerydd, y distadlaf o ddynion ydynt.


Text viewBook