Folk Tale

Y grangc a’i mam

TitleY grangc a’i mam
Book AuthorΑἴσωπος
Chapter Nr.048
Language codecym

Meddai hên Grangc wrth un ieuangc, “Pa’m y cerddwch chwi mor wyrgam, fy mhlentyn? Cerddwch yn union!” “Mam,” ebe y Grangc bychan, “dangoswch i mi pa fodd, os gwelwch yn dda, a phan y gwelaf chwi yn cymmeryd llwybr unionsyth, mi dreiaf finau eich dilyn.”

Y mae esiampl yn well na chyngor.


Text viewBook