Folk Tale

Y llewes

TitleY llewes
Book AuthorΑἴσωπος
Chapter Nr.075
Language codecym

Bu dadleuaeth fawr yn mhlith yr holl fwystfilod, pa un a allai ymffrostio o’r teulu lluosocaf. O’r diwedd, daethant at y Llewes, “A pha faint,” meddent, “sydd genych chwi o rai bychain ar y tro?” “Un,” meddai hithau, gyda mawreddigrwydd, “ond y mae yr un hwnw yn Llew.”

Ardderchogrwydd o flaen lluosogrwydd.


Text viewBook