Folk Tale

Y bugail a’r geifr.

TitleY bugail a’r geifr.
Book AuthorΑἴσωπος
Chapter Nr.113
Language codecym

Ar ddiwrnod dryghinog, a’r eira yn disgyn yn drwm, gyrai Bugail ei Eifr, yn wyn gan eira, i gysgodle yn yr anialwch; ond cafodd fod yno ddeadell o Eifr gwylltion, mwy lluosog, a chryfach na’r eiddo ef, eisoes wedi cymmeryd meddiant o’r lle. Felly, gan feddwl sicrhau y cwbl iddo ei hun, fe adawodd ei Eifr ei hun i ymdarawo goreu y gallent, ac a daflodd yr ymborth a ddygasai ar eu cyfer hwy, o flaen y Geifr gwylltion. Ond pan aeth yr hîn galed heibio, fe gafodd fod ei Eifr ef oll wedi trengu o newyn, tra yr oedd y Geifr gwylltion wedi diangc ymaith i’r bryniau a’r coedydd. Dychwelodd y Bugail adref yn destyn gwawd ei gymmydogion, — wedi methu dal y Geifr gwylltion, ac wedi colli yr eiddo ei hun.

Y rhai a esgeulusant hên gyfeillion er mwyn rhoi newyddion, ni theilyngant gydymdeimlad os collant yr hên â’r newydd.


Text viewBook