Folk Tale

Yr asyn a'i yrwr

TitleYr asyn a'i yrwr
Book AuthorΑἴσωπος
Chapter Nr.133
Language codecym

Asyn, yn cael ei yru ar hŷd y ffordd gan ei Feistr, a redodd yn mlaen, a chan adael y llwybr sathredig, fe garlammodd yn mlaen hyd at ddibyn craig; pan ar syrthio drosodd, daeth ei Feistr i fynu, a chan afael yn ei gynffon, a ymdrechodd ei dynu yn ol, ond yr Asyn a barhaodd i ymgyndynu, a thynu y'mlaen, a'r Dyn a ollyngodd ei afael, gan ddyweyd, "Wel, Jack, os myni fod yn feistr, nid allaf fi mo'i helpio. Rhaid i fwystfil cyndyn fyned ei ffordd ei hun."

Yr ynfyd a ymgyndyna i'w ddinystr ei hun.


Text viewBook