Folk Tale
Y weddw a’r iar
| Author | Αἴσωπος |
|---|---|
| Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop |
| Language | Welsh |
| Origin | Greece |
Yr oedd gan wraig weddw Iâr, yr hon a ddodwyai iddi un wy bob boreu. Dywedai y weddw ynddi ei hin - “Os rhoddaf ddwywaith gymmaint o haidd iddi, hi a ddodwya ddwywaith yn y dydd.” Hi a dreiodd y plan, ac aeth yr Iâr mor dew a graenus fel na ddodwyodd ddim oll! Nid yw ffeithiau bob amser yn ateb i ffigyrau.
Text view • Book