Folk Tale

Y llew a'r bwystfilod yn hela

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Gwnaeth Llew a'r Bwystfilod gytundeb i fyned allan i Hela. Wedi dal carw tew, gwnaeth y Llew ei hun yn farnwr; ac wedi rhanu yr ysglyfaeth yn dair rhan, dywedodd, "Y rhan gyntaf, sydd eiddof fi yn swyddol, fel barnwr; yr ail ran, yr wyf yn ei chymmeryd fel fy rhan bersonol o'r ysglyfaeth; ac am y drydedd ran cymmered y neb a feiddia ef."

Gobaith gwan sydd i'r gwan am gyfiawnder mewn cytundeb gyda'r cryf, yn enwedig os na bydd o egwyddor dda.


Text viewBook