Folk Tale

Y barcud a'r colemenod

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd haid o Golomenod wedi byw yn hir mewn arswyd parhaus rhag Barcud, ond wrth fod bob amser ar eu gwiliadwriaeth, a chadw yn agos at y Colomendy, llwyddasant am dymhor maith i ddiangc rhag ymosodiadau y gelyn. Wrth weled fod ei ymdrechion yn aflwyddiannus, trodd y Barcud i ddefnyddio dichell. "Paham," meddai, "yr ydych yn dewis byw fel hyn mewn ofn parhaus, pan, os gwnewch ond yn unig fy nghymmeryd I yn frenin arnoeh, gwnawn I eich cadw yn ddiogel rhag pob ymosodiad a ellid ei wneuthur arnoch?" Y Colomenod, gan ymddiried yn ei addewidion, a'i galwasant i'r orsedd; ond nid cynt yr oedd wedi ei sefydlu ynddi, nag y dechreuodd ddefnyddio ei allu i ysglyfaethu Colomen bob dydd. Ar hyny, ebe un Golomen oedd yn disgwyl ei thynged hithau, "Nid yw hyn ond yr hyn a haeddasom am ein ffolineb."

Pwy bynag a roddant allu yn wirfoddol yn llaw gormeswr neu elyn, ni ddylent ryfeddu os troir ef o'r diwedd yn eu herbyn hwy eu hunain.


Text viewBook