Folk Tale

Y blaidd a'r cryr glas

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Fel yr oedd Blaidd yn rheibus ymborthi ar ei ysglyfaeth, digwyddodd yn ei wangc, i asgwrn lynu yn ei wddf. Parai hyn y fath boen iddo, fel y rhedai gan udo at bawb o'i amgylch, gan addaw gwobr dda i pwy bynag a'i gwaredai o'i ofid. Y Cryr Glâs, wrth glywed am y wobr, a anturiodd ei wddf hir-fain i enau y Blaidd, ac a dynnodd yr asgwrn ymaith. Yna gofynai yn wylaidd am y wobr addawedig am y gymmwynas; i'r hyn yr atebai y Blaidd, gan wenu, a dan gos ei ddannedd, "Greadur anfoddog, onid yw yn ddigon o wobr i ti, fod dy ben wedi bod rhwng fy nannedd, a'th fod wedi ei gael allan yn ddiogel ? "

Y rhai a wnant gymmwynas yn unig er mwyn y wobr, yn enwedig i ddynion drwg, ni ddylent ryfeddu os cant weithiau eu siomi, a derbyn mwy a sarhad nac o ddiolch am eu trafferth.


Text viewBook