Folk Tale

Y fran goeg-falch

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd rhyw Fran mor falch a chwyddedig fel yr anfoddlonai i'w chylch a'i gwisg naturiol; felly fe gasglodd y plu a syrthient oddiwrth y Paunod, ac a'u gosododd yn mhlith ei phlu ei hunan; ac yna, gan ddiystyru ei hen gymdeithion, hi a gynnygiodd ei hun yn dra hyderus i gyfeillach yr adar prydferth hyny. Y Paunod, gan ganfod ar unwaith y twyll hunanol, a'i diosgasant yn y fan 0'r plu benthyciedig, a chan ymosod arni a'u pigau, a'i gyrasant yn ddigllawn o'u plith. Y Fran benffol, mewn poen a gofid, a ddychwelodd at ei thylwyth ei hun, ac a fynai gymdeithasu gyda hwynt drachefn, fel pe na buasai dim wedi digwydd. Ond y rhai hyny, wrth gofio am ei dirmyg o honynt gynt, ni fynent ei derbyn yn ol, eithr hwy a'u curasant ymaith o'u plith, gan ddywedyd wrthi,—" Pe buaset wedi boddloni i'r hyn y'th wnaethpwyd gan natur, buasit wedi diangc rhag ceryddon dy well, a rhag dirmyg dy gydradd,ond yn awr ti a ddygaist arnat dy hun atgasedd pawb."

Pwy bynag a geisia ymddyrchafu trwy dwyll, ac ar draul rhagoriaethau benthyciedig, a syrth yn îs yn y pen draw.


Text viewBook