Folk Tale

Y bachgen a’r asp

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd bachgen yn chwilio am Lindŷs ar fur, ac wedi dal llawer iawn o honynt; pan y gwelodd Asp, ac a’i cam gymmerodd am Lindysen. Yr oedd yn agor ei law i’w dal, pan y dywedai yr Asp, gan estyn allan ei cholyn, “gwynfyd na buasech wedi cydio ynof, canys buaswn yn fuan yn peri i chwi fy ngollwng I yn rhydd, a’r Lindys hefyd.” Trwy fentro gormod yn ei anwyhodaeth, y mae aml un un wedi colli yr hyn oedd ganddo, a chael mawr ofid yn y fargen.


Text viewBook