Folk Tale

Yr hydd a’i fam

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Dywedai Hydd ieuangc ryw ddydd wrth ei mam, ‘Fy mam, yr ydych yn fwy na’r ci, yn gyflymach, ac yn well eich gwynt, ac y mae genych gyrn i’ch hamddlffyn eich hun; pa beth yw yr achos, gan hynny, fod arnoch gymmaint o ofn y cwn?” Gwenai yr hen fam, ac atebai, “Mi a wn hyn i gyd yn bur dda, fy mhlentyn, ond eto, nid cynt y clywaf gyfarthiad ci, na bydd fy nhraed rywfodd yn fy nghipio i ffordd yn gynted ag y gallant.” Nis gellir ymresymu yr ofnus i wrolder.


Text viewBook