Folk Tale

Y march a’b marchwas

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Arferai rhyw Farchwas ddwyn a gwerthu ceirch y ceffyl, ond yr oedd yn dra diwyd yn ei lanhau a’i ysgrafellu ar hyd y dydd. “Os mynech i mi, mewn gwirionedd, edrych yn dda,” meddai y March, “rhoddwch i mi lai o’ch ysgrafell, a mwy o’ch ŷd.” Ceir gan rai fwy o foesgarwch nac o gymmwynasgarwch a chyfiawnder.


Text viewBook