Folk Tale

Yr hen gi

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Ci, yr hwn a fuasai yn un da iawn yn ei amser, ac a wnaethasai-wasanaeth mawr i’w feistr yn ei helw-iaeth, oedd o’r diwedd yn pallu gan bwysau blynyddoedd meithion, a llafur caled. Rhyw ddiwrnod, pan yn hela y baedd gwyllt, efe a gydiodd.yn y bwystfil gerfydd ei glust, ond ymollyngodd ei ddannedd, a gorfu iddo ollwng ei afael, a diangodd y baedd. Ar hyn, daeth yr heliwr i fynu, ac a’i dwrdiodd yn llym, Ond atebai yr hen Gi egwan iddo, “Arbedwch eich hen was! Cofiwch mai fy ngallu, ac nid fy ewyllys a ballodd. Byddai yn harddach i chwi ystyried yr hyn a fum, na fy ngheryddu am yr hyn ydwyf.” Dylid gwneyd gwahaniaeth rhwng difyg ewyllys a diffyg gallu. Ni ddylid anghofio hen gymmwynasau.


Text viewBook