Folk Tale

Y dyn a’r gwyddan

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Dyn a Gwyddan wedi cyfarfod yn ddamweiniol, a aethant yn gyfeillion, ac a eisteddasant i lawr i gyd-fwyta. Yr oedd yn ddiwrnod gauafaidd ac oer, am hynny rhoddodd y dyn ei fysedd yn ei enau, ac a anadlodd arnynt. “I ba beth y gwnewch fel yna?” gofynai y Gwyddan. “I gynhesu fy nwylaw oerion,” ebe y Dyn. Yn mhen ychydig, daeth dysglaid o fwyd, yn boeth, ar y bwrdd, a’r Dyn, gan ei rhoddi at ei enau, a chwythodd arno. “I ba beth y mae hynyna dda eto?” gofynai y Gwyddan. “O,” atebai y Dyn, “y mae y potes yma yn boeth iawn, yr wyf yn chwythu arno i’w oeri dipyn.” “O, felly, aië,” meddai y Gwyddan, “ewch ymaith yn union, yr ydwyf yn ymwrthod a’ch cyfeillach yn hollol, ni fynwn ddim yn y byd i’w wneyd ag un sydd yn chwythu yn oer ac yn boeth a’r un genau.”

Dyn i’w osgoi ydyw y tymherog, a’r hwn a fedr wenieithio ac enllibio â’r un genau.


Text viewBook