Folk Tale

Llygoden y wlad a llygoden y dref

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Gwahoddodd Llygoden wladaidd hên Gyfeilles iddi, oedd yn byw yn y ddinas, i dalu ymweliad â hi. Derbyniwyd y gwahoddiad yn foesgar; a’r Lygoden wladaidd, er yn ddigon plaen ac anghoethedig, ac yn lled gynnil ei natur, a agorodd ei chalon a’i hystôr, er croesaw i’w hên Gyfeilles. Nid oedd un gronyn cynniliedig na ddygwyd allan o’r fwyd-gell, — pŷs, haidd, briwsion caws, a chnau, &c.; a gobeithiai y Lygoden lettygar wneyd i fynu mewn cyflawnder, yr hyn yr ofnai oedd yn fyr mewn danteithioldeb, i gyfarfod ag archwaeth goethedig ei Chyfeilles ddinasol. Llygoden y dref, yn bur fursenaidd, a bigai dammaid yma, a thammaid draw; tra yr oedd yr hon a’i llettyai, rhag ofn lleihau dim ar yr arlwy, yn eistedd gerllaw ac yn pigo gwelltyn haidd yn bur ddedwydd. O’r diwedd, torodd Llygoden y ddinas allan, a dywedodd, “Pa sut yn y byd, fy hên Gyfeilles, y gellwch oddef y bywyd llonydd, dwl, ac anghoethedig yma? Yr ydych yn byw fel llyffant mewn twll. Does bossibl, eich bod mewn gwirionedd, yn caru yr hen greigiau unigol hyn, a’r coedwigoedd, a’r maesydd distaw yma, yn fwy na heolydd yn fyw gan gerbydau a dynion! Ar fy ngair, yr ydych yn gwastraffu eich amser yn druenus yma: rhaid i ni wneyd y goreu o’n bywyd tra y parhao; nid yw Llygoden, fel y gwyddoch, ddim yn byw byth. Felly, deuwch gyda fi yn union i’r ddinas, a mi a ddangosaf i chwi fywyd.” Wedi ei gorchfygu gan y fath eiriau gwych, a’r fath foesgarwch urddasol, cydunodd y Lygoden wladaidd a’r cynnygiad, a hwy a gychwynasant, gyda’r hwyr, ar eu taith i’r dref. Yr oedd hi yn mhell yn y nos pan yr ymlithrent yn ddistaw i’r heolydd, ac yn hanner y nos erbyn iddynt gyrhaedd y tŷ mawr, yn yr hwn yr oedd Llygoden y dref yn gwneyd ei chartref. — Yma yr oedd cadeiriau esmwyth, a gorweddfâau o velvet ysgarlad, dodrefn wedi eu gweithio ag ifori, a phob peth arall yn arwyddo cyfoeth a moethusrwydd. Ar y bwrdd yr oedd gweddillion gwledd ardderchog, ar gyfer yr hon yr oedd holl fasnachdai y ddinas wedi cyfrannu eu danteithion y dydd o’r blaen. Yma yr oedd tro y Lygoden ddinasol i ddangos ei llettygarwch; gosododd ei hymwelydd gwladaidd i orphwys ar borphor, rhedai yma a thraw yn awyddus i weini ar ei holl anghenion, cymhellai ddysgl ar ddysgl, a dantaith ar ddantaith; ac, fel pe yn gweini ar frenin, profai bob peth ei hun, cyn ei osod o flaen ei Chares ddysyml. Yr oedd Llygoden y wlad, erbyn hyn, yn dechreu teimlo a gwneyd ei hun yn hollol gartref; ac yn barod i fendithio yr hap dda oedd wedi gweithio y fath gyfnewidiad dymunol yn ei dull o fyw. Ond, pan yn nghanol ei mwyniant, ac yn dechreu meddwl gyda dirmyg am y fywioliaeth dlawd yr oedd wedi cefnu arni; yn ddisymwth, dyma ddrws yn cael ei daflu yn agored, a chwmni o loddestwyr yn dychwelyd o wledd hwyrol, yn rhuthro i mewn i’r ystafell. Y ddwy Gyfeilles ddychrynedig a neidiasant oddiar y bwrdd yn y braw mwyaf, ac a ffoisant i ymguddio yn y gornel gyntaf a allasant ei gyrhaedd. Yn mhen tipyn, hwy a anturiasant gribo allan drachefn; ond yn ddioed dyma gyfarthiad llu o gŵn, yn eu gyru yn ol mewn braw a dychryn mwy fyth. O’r diwedd, pan yr oedd pethau wedi tawelu ychydig, fe lithrodd llygoden y Wlad allan o’i hymguddfan, a chan ffarwelio â’i Chyfeilles, hi a sisialodd yn ei chlust, “O! fy anwyl Gares, gall y dull gwych hwn o fyw wneyd y tro i’r rhai a’i carant; ond rhoddwch i mi fy mara haidd mewn heddwch a diogelwch, o flaen y wledd fwyaf ddanteithiol gyda gofal ac ofn parhaus.”

“Gwell yw pryd o ddail gyda llonyddwch, nag ŷch pasgedig a châs gydag ef.”


Text viewBook