Folk Tale

Yr hen wraig a’r gwin-lestr

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Gwelai Hen Wraig Gostrel wag yn gorwedd ar lawr. Er nad. oedd un diferyn o’r Gwin puredig, yr hyn a gynnwysasai gynt, yn aros ynddi; eto, yr oedd yr arogl mwyaf dymunol yn cyfodi o honi. Rhoddodd yr Hen Wraig ei thrwyn yn ngheg y Gostrel, ac aroglodd a’i holl allu yn egnïol, gan sylwi, “Greadur melus, mor ragorol y rhaid fod eich cynnwys unwaith, pan y mae y gwaddod mor beraidd.”

“Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig”


Text viewBook