Folk Tale

Y ci a’r blaidd

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Ar noswaith oer, leuad-olau, digwyddodd i Flaidd teneu, newynllyd, gyfarfod â Chî tew, cysurus iawn yr olwg arno. Ar ol y cyfarchiadau cyntaf rhyngddynt, “Pa fodd y mae yn digwydd,” gofynai y Blaidd, “eich bod yn edrych mor dda? Mor dda y mae eich bwyd yn cytuno â chwi! Rhaid eich bod yn cael digon o hono. A dyma fi yn ymdrechu am fy mywyd ddydd a nos, ac nid allaf ond prin gadw fy hun rhag newynu.” “Wel,” meddai y Cî, “os mynech gael yr un fywioliaeth â mi, nid oes i chwi ond gwneyd yr un fath a minau.” “Aië,” ebe’r llall, “a pha beth yw hyny?” “O,” ebe y Cî, “dim ond gwylio tŷ fy meistr, a chadw lladron ymaith y nos.” “Gwnaf hyny yn llawen; canys nid oes genyf yn awr ond bywyd blin iawn. Byddai newid fy lletty yn y coedwigoedd, yn y gwlaw, a’r eira, a’r rhew, am dô cynhes uwch fy mhen, a llon’d fy nghylla o fwyd da, yn burion bargen.” “Gwir,” meddai y Cî, “ac felly nid oes i chwi ddim i’w wneyd ond fy nghanlyn I.” Fel yr oeddent yn trotian yn mlaen ynghyd, canfyddodd y Blaidd ryw farc ar wddf y Ci, ac i borthi rhyw gywreinrwydd hynod oedd ynddo, nis gallai ond gofyn, pa beth oedd hwnw yn ei arwyddocau. “Pŵ, dim byd,” meddai y Cî. “Na, nid felly,” meddai y Blaidd. “Wel, wel, dim byd o bwys: ôl y goler, feallai, wrth ba un y mae fy nghadwen yn cydio.’’ “Cadwen!” meddai y Blaidd mewn syndod; “nid ydych ddim yn meddwl dyweyd nad ydych ddim yn rhydd i fyn’d a dyfod i’r fan a fynoch, a phan y mynoch?” “Wel, nag ydwyf, yn hollol, efallai; welwch chwi, mae nhw yn gwybod fy mod I yn o groes, weithiau; ac hefyd, ond i mi gysgu y dydd, y medraf wylio yn well y nos, — felly, y maent yn fy rhwymo i fynu, weithiau, yn y dydd, ond yr wyf yn sicrhau i chwi, fy mod yn cael rhyddid perffaith y nos. Ac fe fyddai fy meistr yn fy mhorthi oddiar ei fwrdd ei hun, a’r gweinidogion yn taflu i mi lawer tamaid blasus, canys yr wyf yn cael fy hoffi ganddynt oll, ac ——— Ond pa beth yw’r mater? I ba le yr ydych chwi yn myned?” “O, nos da i chwi,” meddai y Blaidd, “mae i chwi groesaw o’ch danteithion; am danaf fi, y fywioliaeth galetaf gyda rhyddid, yn erbyn moethau breninol gyda chadwen.”

Ni fyn y rhai sydd wedi eu darostwng dan iau ddim cydnabod eu caethiwed. Nid all y neb a gafodd flas ar ryddid, ddim ei werthu er dim.


Text viewBook