Folk Tale

Yr iÂr a’r gath

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Câth, yn clywed fod Giar yn gorwedd yn glaf yn ei nyth, a dalodd ymweliad â hi, a chyn nesu atti, dywedodd, “Pa sut yr ydych chwi, fy Nghyfeilles anwyl? Pa beth a allaf fi ei wneuthur i chwi? Pa beth ydych fwyaf mewn angen am dano? Nid rhaid i chwi ddim ond dywcyd y gair, os oes rhywbeth yn y byd a allaf ei ddwyn i chwi; ond cedwch eich calon i fynu, a pheidiwch a dychrynu, a gollwng eich meddwl i lawr.” “Diolch i chwi,” meddai yr Iar; “byddwch chwi cystal a’ni gadael, ac nid oes genyf ddim ofn na byddaf yn fuan yn iach.”

Mae gormod o garedigrwydd yn beth i’w ddrwgdybio, yn enwedig oddiwrth ryw fath o ymwelwyr; y caredigrwydd mwyaf a all y cyfryw wneyd yw ymadael.


Text viewBook