Folk Tale

Y llwynog a’r coediwr

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Llwynog, bron cael ei ddal gan y cŵn, ar ol rhedegfa faith, a ddaeth i fynu at ddyn yr hwn oedd yn tori coed, ac a erfyniodd arno ddangos iddo ryw le yn mha un i ymguddio. Dangosodd y dyn iddo ei gaban ei hun, a’r Llwynog a lithrodd i mewn ac a ymguddiodd mewn cornel. Daeth yr Helwyr i fynu gyda hyny, a gofynasant i’r dyn, A welsai ef y Llwynog, ai peidio. “Naddo,” meddai; ond ar yr un pryd, pwyntiai â’i fys tua’r gornel. Eithr hwy, heb ddeall yr amnaid, a aethaut ymaith yn union. Pan ddeallodd y Llwynog eu bod wedi myned allan o’r golwg, fe geisiodd redeg ymaith, heb ddyweyd gair; ond y Coediwr a’i ceryddai ef, gan ddywedyd, “Ai dyma y dull yr ydych yn ymadael â’ch llettywr tirion, heb gymmaint a dychwelyd un gair o ddiolch am roi nodd­ed i chwi?” “Llettywr gwych, yn wir!” ebe y Llwyn­og, gan droi atto, “pe buasech wedi bod mor onest gyda’ch bysedd, ac y buoch gyda’ch tafod, ni buaswn wedl gadael eich tŷ heb ffarwelio â chwi.”

Mae amnaid maleisus, cyn waethed a gair drwg.


Text viewBook