Folk Tale

Y carw yn ystol yr ych

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Carw yn cael ei hela, a bron cael ei ddal, a wnaeth am y ffarm-dŷ cyntaf a welodd, ac a ymguddiodd mewn Ystôl Ych, a ddigwyddodd fod yn agored. Fel yr oedd yn ceisio cuddio ei hun yn y gwellt “Pa beth ydych yn feddwl,” meddai yr Ych, “wrth redeg i’r fath ddinystr anocheladwy, trwy ymddiried eich hun yn ngafael dynion?” “Os peidiwch chwi a’m bradychu,” ebe y Carw, “byddaf ddiogel; canys mi âf ymaith y cyfle cyntaf.” Yr hwyr a ddaeth, daeth y porthmon ac y fwydodd y Gwartheg, ac ni sylwodd ar ddim: daeth y fferm weision ereill i mewn ac allan; ïe, daeth yr ystiward ei him i mewn, ond ni welodd neb ddim mwy nag arfer. Yr oedd y Carw eto yn ddiogel. Yn mhen tipyn, fe gyfododd i fyned ymaith, gan ddiolch i’r Ychain am eu tiriondeb. “Arhoswch dipyn,” meddai un o honynt, “yr ydym yn wir yn ewyllysio yn dda i chwi; ond y mae un person eto, a chanddo gant o lygaid, os digwydd iddo ef ddyfod heibio, ofnaf y bydd eich bywyd eto mewn perygl.” Gyda hyn, y meistr, wedi gorphen ei swper, a ddaeth o gwmpas i edrych a oedd pob peth yn iawn am y nos; ac oblegid ei fod wedi meddwl nad oedd yr Ychain, yn ddiweddar, yn edrych cystal ag y dylasent, yr oedd y bur fanwl: gan fyned i fynu at y rhesel, “Y mae yma rhy fach o wair,” meddai, “A phaham na roddwch fwy o wellt o dan yr Ychain ?” “A pha sawl gwaith y rhaid i mi ddangos y gwëoedd pryf copyn yma i chwi ?” Wrth edrych a chwilio yma ac acw, ac yn mhob man, fe ganfyddai gyrn y Carw, yn sefyll allan o’r gwellt, a chan alw mwy o weision, fe’i daliodd yn y fan.

Nid oes un llygad fel llygad y meistr.


Text viewBook