Folk Tale

Y bachgen a thynged.

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd Bachgen yn cysgu ar ymyl ffynnon ddofn. Tynged a’i gwelodd, ac a ddaeth ac a’i deffrôdd ef, gan ddywedyd, “Dâ thi, fy mhlentyn, paid gorwedd yn cysgu yna, canys pe digwyddai i ti syrthio i mewn, ni wnai neb dy feio di, ond rhoddid yr holl fai arnaf fi — TYNGHED.” Y mae Tynghed neu Ragluniaeth druan yn cael taflu llawer iawn wrth ei drws, ac yn fynych iawn yn anghyfiawn hefyd.


Text viewBook