Folk Tale

Y glowr a’r panwr

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Glowr, gan yr hwn yr oedd mwy o le yn ei dŷ nag oedd eisiau iddo ef ei hun, a gynnygiodd i Banwr ddod i gydfyw ag ef. “Diolch i chwi,” atebai y Panwr, “ond y mae yn well genyf beidio, oblegid yr wyf yn ofni, mor gynted ag y bydd i mi banu fy nwyddau, y bydd i chwithau eu duo hwynt.”

Y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da.— Nis gall ieuad anghyson lwyddo.


Text viewBook