Folk Tale

Y llew mewn cariad

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Digwyddodd yn yr hen amser gynt i Lew syrthio mewn cariad â Merch i Goediwr. Nid oedd y Coediwr yn caru y cynnygiad, ac a fynai wrthod yr anrhydedd o gyfathrach mor beryglus. Ond y Llew a’i bygythiai â’i ddigofaint breninol; a’r Dyn, druan, yn gweled nad oedd creadur mor ofnadwy ddim i’w nacau, a feddyliodd o’r diwedd am ei ddyrysu trwy y ddichell ganlynol: — “Yr wyf yn ystyried eich cynnygiad yn anrhydedd mawr arnaf,” meddai, “ond urddasol syr, pa fath ddannedd mawrion sydd genych! a’r fath ewinedd llymion! Pa le y mae y ferch na orchfygid gan ofn y fath arfau a’r rhai hyn? Rhaid i chwi gael tynu eich dannedd, a thori eich ewinedd, cyn bod yn gymhwys briod i fy Merch.” Y Llew a foddlonodd yn ddioed (canys pa beth na wna un er mwyn cariad), ac wedi dyoddef y driniaeth, gofynai i’r Tad ei dderbyn fel ei fab y’nghyfraith. Ond y Coediwr, heb achos ofni mwyach rhag bygythiadau y Carwr diarfog a dofedig, a gymerodd bastwn cryf, ac a gurodd y Carwr afresymol oddiwrth ei ddrws.

Y mae llawer yn galaru yn eu pwyll am yr hyn a wnaethant mewn nwyd. Y mae chwant yn troi y cawr yn gorach.


Text viewBook