Folk Tale

Yr asyn a’r ci bach

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd Asyn a Chî Bach yn perthyn i’r un meistr. Yr oedd yr Asyn yn yr ystabl yn cael digon o ŷd a gwair, ac yn byw cystal ag un Asyn yn y byd. Yr oedd y Cî Bach bob amser yn chwareu ac yn prangcio o gwmpas ei feistr, yn ei ddifyru yn mhob modd, nes dod mor uchel i’w ffafr, fel yr oedd yn cael gorwedd ar ei liniau. Yr Asyn a sylwodd ar fywyd segur a moethus y Cî Bach, a chan gyferbynu hyny a’i lafur parhaus ef, cenfigenodd wrtho; ac a feddyliodd ond iddo ef weithredu yn yr un modd tuag at y meistr, y cai yntau yr un driniaeth. Felly, ryw ddiwrnod, fel yr oedd ei feistr yn eistedd i fwytta, fe ruthrodd, gan frefu a phrangcio, tuag atto; fe ysgydwodd ei gynffon, ac a efelychodd gampiau y Cî Bach, nes taflu i lawr y bwrdd ciniaw a thori y llestri; ac o’r diwedd, ceisiodd neidio ar ei liniau, gan ei gyfarch ef a’i draed pedoledig. Y gweision a chwarddent yn y dechreu, ond wrth weled ei meistr dan y fath driniaeth beryglus, a ddaethant yn mlaen i’w amddiffyn; ac wedi ei ryddhau oddiwrth gofleidiau yr Asyn, hwy a gurasant y creadur ffol â ffyn a fflangellau, nes yr oedd yn mron inarw. “Och! fi,” meddai yr Asyn, “na buaswn foddlawn yn fy lle fy hun, yn lle ceisio dynwared a munudiau ffol un nad oedd ond clepgi ar ol y cwbl.”

Mae pob un a elo allan o’i lwybr naturiol yn agored i wawd a dirmyg.


Text viewBook