Folk Tale

Yr hen wraig a’r meddyg

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Hen Wraig, yr hon, wedi colli ei golwg, a alwodd Feddyg i mewn, ac a addawodd iddo, o flaen tystion, os byddai iddo adferu ei golwg, y gwnai hi ei wobrwyo yn hardd; ond os na iachai efe hi, na thalai hi ddim iddo. Wedi gwneuthur y cytundeb, esgeulusodd y Meddyg lygaid yr Hên Wraig, er ei fod yn galw, o dro i dro; ac ar yr un pryd, fe gariodd ymaith, yn raddol ei holl ddodrefn, a’i dâ. O’r diwedd, fe ymosododd atti o ddifrif, ac a adferodd ei golwg; ac yna, fe ofynodd am y wobr addawedig. Ond yr Hên Wraig, wedi cael el golwg, a ganfu fod ei holl ddâ wedi diflannu, gan hyny, yr oedd y Meddyg yn gwasgu arni am daliad, hi a’i rhoddai ymaith yn barhaus gydag esgusodion, nes o’r diwedd iddo ei gwasgu hi o flaen y barnwr. Wedi galw arni am ei hamddiffyniad, hi a ddywedodd, “Y mae yr hyn a ddywed y Dyn hwn yn bur wir; — mi a gyttinais i’w wobrwyo, os adferai fy ngolwg; ond na thalwn iddo, os parhai fy llygaid yn ddrwg. Yn awr, y mae efe yn dyweyd, fy mod I wedi fy iachau; ond yr wyf fi yn haeru yn hollol i’r gwrthwyneb, — canys pan ddechreuodd fy anhwylder ddyfod arnaf, yr oeddwn yn gweled pob math o ddodrefn, a dâ, yn fy nhŷ; ond yn awr, pan y mae efe yn hòni ei fod wedi adferu fy ngolwg, nid wyf yn gweled dim o’r naill na’r llall.”

Rhaid i’r neb a wna gast anonest, ddisgwyl cael goganiad o’i herwydd, o’r hyn lleiaf.


Text viewBook