Folk Tale

Y ffermwr a’r chwibon

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Gosododd Amaethydd rwyd yn ei faes i ddal y garanydd oeddent yn dyfod i ymborthi ar yr yd, newydd ei hau. Pan aeth i chwilio y rhwyd, a gweled pa faint o’r adar oedd wedi eu dal, fe gafodd Chwibon yn eu plith. “Arbedwch fi,” meddai y Chwibon, “a gadewch i mi fyned yn rhydd. Nid garan ydwyf fi. Ni fwyteais I ddim o’ch ŷd. Chwi­bon, druan, ddiniwed ydwyf ti, fel y gwelwch: — un o’r moesolaf a ffyddlonaf o adar; yr wyf yn anrhydeddu ac yn gofalu am fy rhieni, yr wyf ———” Ond torodd y Ffermwr ei stori yn fyr, gan ddywedyd, “Gall hyn yna oll fod yn ddigon gwir, am a wn I; ond hyn a wn, mi a’ch deliais chwi gyda y rhai oedd yn dyfetha fy nghnydau, a rhaid i chwi ddyoddef gyda’r cymdeithion gyda pha rai y’ch cymmerwyd.”

Y mae cymdeithas ddrwg yn llefaru yn uwch na phroffes dda.


Text viewBook