Folk Tale

Y ci a’i feistr

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Fel yr oedd rhyw Wr ar gychwyn i daith, fe sylwodd ar ei Gi, yn sefyll wrth y drws, ac a ddywedodd wrtho, “Paham yr ydych yn ystwyrian yna? Ceisiwch eich hun yn barod i fyned gyda mi.” Y Ci, gan ysgwyd ei gynffon, a atebodd, “Yr wyf fi yn hollol barod, Meistr; y chwi sydd raid hwylio a thaclu.”

Mae baich y tlawd yn hawdd ei drefnu.


Text viewBook