Folk Tale

Yr adalwr a’r ehedydd

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Fel yr oedd Adarwr yn gosod ei rwydi ar faes; Ehedydd, wrth sylwi arno o bell, a ofynodd iddo, pa beth yr oedd yn ei wneuthur. “Yr wyf yn sefydlu. trefedigaeth,” ebe yntau, “ac yn gosod sylfaeni fy ninas gyntaf.” Ar hyny, ciliodd y Dyn o’r naill du, ac a ymguddiodd: yr Ehedydd, gan goelio ei ymadrodd, a ehedodd i lawr i’r fan, a chan lyngcu yr abwyd, a gafodd ei hun yn y fagl. Gyda hyny, daeth yr Adar­wr i fynu, ac a’i cymmerodd yn garcharor. “Wel, gwalch rhyfedd ydych chwi,” ebe yr Ehedydd, “os dyma y trefedigaethau yr yr ydych yn eu sefydlu, ni chewch fawr o ymfudwyr.”

Y mae y diniwed yn, rhy barod i gredu pob chwedl; a’r ffol ni egyr ei lygaid nes yn y rhwyd.


Text viewBook