Folk Tale

Mercher a’r coediwr.

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Coediwr, yn taflu coed ar lan afon, yn ddamweiniol a ollyngodd ei fwyall i lawr i’r dwfr, lle y suddodd yn union i’r gwaelod. Mewn gofid mawr am ei golled, eisteddodd y Dyn ar làn yr afon, yn wylo yn chwerw oblegid ei golled. Ond y duw Mercher, perchenog yr afon, gan gymmeryd trugaredd arno, a ymddangosodd yn ddioed o’i flaen, ac wedi clywed ganddo yr achos o’i ofid, efe a ymsuddodd i waelod yr afon, a chan ddwyn i fynu fwyall aur, efe a ofynodd i’r Coediwr, ai dyna ei fwyall ef; ar waith y Dyn yn dyweyd mai nadê, ymsuddodd Mercher yr ail waith, a dygodd i fynu fwyall o arian; drachefn, dywedodd y Dyn mai nid honyna oedd ei fwyall ef, felly, wedi ymsuddo y drydedd waith, fe ddygodd i fynu y fwyall a gollodd y Dyn ei hun. “Dyna yr eiddof fi,” meddai y Coediwr, mewn mawr lawenydd oblegid cael ei fwyall yn ol; ac yr oedd Mercher wedi ei foddhau gymmaint yn ngonestrwydd a di-dwylldra y Dyn, fel yr anrhegodd ef a’r ddwy fwyall arall hefyd. Aeth y Dyn, ac a fynegodd i’w gyfeillion yr hyn a ddigwyddasai; ac un o honynt a benderfynodd dreio pa un a allai yntau gael yr un ffawd dda. Felly, fe aeth i’r un fan, a chan gymmeryd arno dori coed, fe ollyngodd ei fwyall, yn fwriadol, i’r afon, ac yna a eisteddodd ar y làn, ac a wnaeth ymddangosiad o alar a wylo mawr. Ymddangosodd Mercher, fel o’r blaen, ac wedi cael rhoi ar ddeall iddo, mai oblegid colli ei fwyall yr oedd yn wylo, fe ymsuddodd unwaith eto i’r ffrwd, a chan ddwyn i fynu fwyall aur, gofynodd i’r Dyn ai hono a gollodd, “Ië, yn wir,” ebe’r Dyn yn awyddus; ac yr oedd ar afaelyd yn y trysor, pan y darfu i Mercher, i gospi ei wynebgaledwch a’i dwyll, nid yn unig wrthod rhoi hono iddo, ond gommedd hefyd estyn ei fwyall ef ei hun.

Gonestrwydd a dâl oreu yn y pen draw.


Text viewBook