Folk Tale

Y gath a’r llygod

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Câth, wedi myned yn wan, trwy henaint, ac yn analluog i ddal Llygod fel y byddai yn arfer, a fyfyriodd pa fodd y gallai eu hudo o fewn cyrhaedd ei phalfau. Gan feddwl y gallai basio ei hun am gŵd, neu Gath farw, beth bynag, hi a grogodd ei him wrth ei thraed ôl oddiar fach, gan feddwl na phetrusai y Llygod ddyfod yn ddigon agos atti. Hên Lygoden, oedd yn ddigon call i gadw o’i chyrhaedd, a ddywedai wrth gyfaill, “Mi a welais lawer cŵd yn fy oes, ond erioed un a phen Câth, o’r blaen.” “Crogwch yna, Meistres bach,” meddai y llall, “cyhyd ag y mynoch; ond ni ymddiriedwn i fy hun yn eich cyr­haedd, pe baech wedi eich hystwffio â gwellt.”

Ni ymddyried y call yn fuan i’r neb a’i twyllodd unwaith. Ni ddelir hên adar â manus.


Text viewBook