Folk Tale

Y forwyn a’i phiser llaeth

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Fel yr oedd Llangces yn cerdded gyda Phiser Llaeth ar ei phen, hi a ddechreuodd fyfyrio fel y canlyn:— “Gwna yr arian a dderbyniaf am y llaeth hwn fy ngalluogi i chwanegu fy ystôr o wyau i dri chant, — gwna yr wyau, ar ol pob colled, roddi o’r hyn lleiaf ddau cant a hanner o gywion. Bydd y cywion yn barod i’w cario i’r farchnad yn gymhwys yn yr amser pan y bydd cywion bob amser yn ddrudion, felly, erbyn dydd Calan, nis gall na bydd genyf ddigon o arian i brynu gŵn newydd. Gadewch weled, gwyrdd sydd yn gweddu i mi oreu, ïe, gwyrdd, a dyna gaiff y gŵn newydd fod; yn y gŵn hon mi âf i’r ffair, a bydd yr holl langciau ieuaingc yn ymryson am fy nghyfeillach; ond, na, mi wrthodaf bob un o honynt, a chydag amnaid gwawdus o’m pen mi a droaf oddi wrthynt.” Yn llawn o’r meddwl hwn, nid allai lai na chrymu ei phen yn unol a’r meddwl oedd yn pasio o’i mewn; pan, och! i lawr y daeth y Piser Llaeth! a diflanodd ei holl ragolygon dedwydd yn y funud!

Gwaith ofer a pheryglus ydyw cyfrif y cywion yn cibau neu adeiladu cestyll yn yr awyr.


Text viewBook