Folk Tale

Y llygod mewn ymgynghorfa.

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Digwyddodd fod y Llygod mewn blinder mawr o herwydd erledigaeth y Gâth; a hwy a benderfynasant alw Cyfarfod i lunio y moddion tebyccaf i gael gwaredigaeth o’r brofedigaeth barhaus. Cynnygiwyd a gwrthodwyd llawer o fesurau: o’r diwedd, cododd Llygoden ieuiangc, ac a gynnygiodd, Fod cloch i gael ei chrogi am wddf y Gâth, fel y gallent, o hyny allan, gael rhybudd prydlawn o’i dynesiad, ac felly, gael amser i ddiangc. Derbyniwyd y cynnygiad hwn gyda’r cymmeradwyaeth mwyaf, a phasiwyd ef yn unfrydol. Ar hyn, cododd hên Lygoden i fynu, oedd wedi bod yn ddistaw hyd yn hyn, a sylwodd fod y cynllun yna yn dra chywrain, ac y byddai yn ddiau yn hollol effeithiol; ond nid oedd ganddo ond un cwestiwn bychan i’w ofyn, sef, Pa un o honynt oedd i grogi y gloch am wddf y Gâth?

Un peth yw cynllunio, peth arall yw cyflawni. Mae doethineb cynllun yn ymddibynu ar ei fod yn alluadwy.


Text viewBook