Folk Tale

Y llew a’r afr.

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Ar ddiwrnod tesog o hâf, pan yr oedd pob peth yn dyoddef gan y gwrês mawr, daeth Llew a Gafr ar unwaith i dori eu syched at ffynnon fechan o ddwfi. Dechreuasant yn ddioed ymrafaelio, pa un a gai yfed gyntaf, nes o’r diwedd yr ymddangosent fel yn barod i ymdrech hyd at farw am y flaenoriaeth. Ond wrth iddynt orphwys am foment i gael anadl, gwelsant haid o fwlturiaid yn hofran uwch ben iddynt, yn barod i ddisgyn yn union ar pa un bynag o honynt a leddid. Ar hyny, gwnaethant eu cweryl i fynu yn ddioed, gan farnu mai gwell iddynt ill dau ddyfod yn gyfeillion, na myned yn ysglyfaeth i frain a fwl­turiaid.

Byddai llai o ryfela, pe iawn ystyrid y canlyniadau.


Text viewBook