Folk Tale

Yr wydd a’r wyau aur.

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Digwyddodd fod gan rhyw ŵr ffodus Wydd, yr hon a ddodwyai iddo Wy Aur bob dydd. Ond, gan anfoddloni i dderbyn cyfoeth mor araf, a chan feddwl meddiannu yr holl drysor ar unwaith, fe laddodd yr Wydd; ac wedi ei hagor, fe’i cafodd oddifewn yn union yr un fath â rhyw Wydd arall.

Llawer a fyn fwy, ac a gyll y cwbl. Na fydd ry brysur i ymgyfoethogi.


Text viewBook