Folk Tale

Y pomgranad, yr afal, a’r fieren

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd y Pomgranad a’r Afal yn ymrafaelio, pa un o honynt oedd y prydferthaf Pan aeth eu geiriau yn bur uchel, a’r cweryl yn myned yn boeth, Mieren a estynai ei phen allan o dwmpath gerllaw, ac a ddywedodd, “Yr ydym wedi dadleu digon o hyd: na fydded dim eiddigedd rhyngom ni mwy.”

Y mwyaf distadl ydynt yn fynych y mwyaf hunandybus.


Text viewBook