Folk Tale

Y ci a wahoddwyd i swper.

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Gwr bonheddig, wedi parottoi gwledd fawr, a wahoddodd ei gyfaill i Swper; a Chî y gwr bonheddig, yn digwydd cyfarfod a Chî y Cyfaill, a’i gwahoddai yntau. “Dowch, fy nghyfaill,” eb efe, “a swperwch gyda ni heno.” Derbyniodd y Cî y gwahoddiad gyda’r llawenydd mwyaf; ac fel y safai gerllaw, gan sylwi ar y parottoadau i’r wledd, efe a ddywedodd ynddo ei hun, “Rhagorol! yn wir; yn sicr, dyma hap dda i mi. Mi a wnaf gyfiawnder a’r danteithion hyn: mi a gymmeraf ofal i fwyta digon heno, rhag ofn na chaf ddim bwyd yforu.” Fel yr aeth y pethau hyn trwy ei feddwl, ysgydwai ei gynffon, a thaflai edrychiad cyfrwysgu at ei gyfaill, yr hwn a’i gwahoddasai. Ond darfu i ysgydwad ei gynffon alw sylw y cogydd atto; a hwnw, wrth ganfod ei fod yn Gî dieithr, a’i cymmerodd gerfydd ei goesau yn ddioed, ac a’i taflodd trwy’r ffenestr allan. Pan gyrhaeddodd y ddaear, rhedodd ymaith gan udo lawr yr heol. Ar hyny, rhedai rhai o Gŵn y cymmydogion atto, a gofynasant iddo, Pa fodd yr oedd wedi mwynhau ei Swper?

“Yn wir,” ebe yntau, gyda gwên ammheus, “nis gallaf. prin ddyweyd, canys ni a yfasom mor drwm, fel mai prin y gallaf fi ddyweyd pa fodd y daethum allan o’r tŷ!”

Rhaid i’r rhai a lechiant i mewn trwy’r drws cefn, ddisgwyl cael eu taflu, allan trwy’r ffenestr. — Ysbryd cîaidd yw gwawdio yr anffortunus.


Text viewBook