Folk Tale

Y pysgottwr.

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Aeth Pysgottwr at yr afon i bysgotta, ac wedi taenu ei rwydau ar draws y ffrwd, rhwymodd garreg wrth ben cortyn htr, a dechreuodd guro y dwfr o bob tu y rhwyd, i yru y pysgod i mewn iddi. Un o’r cymmydogion oedd yn byw gerllaw, wrth weled hyn, a aeth atto, ac a’i beiodd yn fawr am gynhyrfu y dwfr, a’i wneyd mor llwyd fel nad oedd yn gymhwys i’w yfed. “Y mae yn ddrwg genyf,” meddai y Pysg­ottwr, “fod fy ngwaith yn eich anfoddloni, ond trwy gynhyrfu y dyfroedd fel hyn yr wyf fi yn ennill fy mywioliaeth.”

Nid yw y trachwantus yn meddwl am golled neb, ond iddo ef ennill.


Text viewBook