Folk Tale

Y llyffaint yn deisyf am frenin.

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
Publication Date0
LanguageWelsh
OriginGreece

Yn y dyddiau gynt, yr oedd y Llyffaint oll yn mwynhau eu rhyddid yn y llynoedd, ond blinasant ar eu hannibyniaeth, gan feddwl ei fod yn arwain i benrhyddid; felly, ymgynnullasant ynghyd ryw ddiwrnod, a chyd-erfyniasant yn daer ar Iau, i roddi iddynt Frenin, i’w cadw mewn gwell trefn, ac i beri iddynt fyw yn fwy gonest. Iau, yn canfod balchder eu calonau, a wenodd ar eu deisyfiad, ac a danodd ddarn o bren i ganol y llyn, gan ddywedyd, “Dyna i chwi Frenin.” Darfu i ddisgyniad y pren yn ddisymwth i’r dwfr, gan y cynhwrf a’r sŵn a wnaeth, daflu yr holl gyfundeb o Lyffaint i’r braw a’r syndod mwyaf, - ffoisant i waelod y Ilyn, gan ymguddio yn y llaid, ac ni feiddient ddyfod o fewn hŷd deg naid i’r fan yr oedd y pren yn gorwedd. O’r diwedd, un Llyffant, mwy dewr na’r lleill, a fentrodd godi ei ben uwchlaw y dŵr, a chymmeryd golwg o bell ar y Brenin newydd. Bob yn ychydig, wrth weled fod y pren yn gorwedd mor llonydd, dechreuodd ereill nofio atto, ac o’i amgylch; a chan dd’od yn hyfach, hyfach, hwy, o’r diwedd, a neidiasant arno, ac a’i trin-ient gyda’r dirmyg mwyaf. Yn anfoddlawn ar Lywodraethwr mor ddiniweid, hwy a erfyniasant yn unfrydol eilwaith ar Iau, i roddi iddynt Frenin arall, a mwy galluog. Ar hyn, fe anfonodd Iau yr aderyn ysglyfaethus hwnw, y Chwibon, iddynt; yr hwn, mor fuan ac y daeth attynt, a ddechreuodd afael ynddynt a’u llyncu, y naill ar ol y llall, mor fuan ac y gallai, ac yn ofer yr ymdrechent ddiangc rhagddo. Erbyn hyn, hwy a anfonasant Mawrth gyda chenadwri ddirgelaidd at Iau, i ddeisyf arno dosturio wrthynt un waith yn rhagor; ond Iau a’u hatebodd nad oeddynt ond yn dyoddef y gospedigaeth gyfiawn am eu ffolineb, ac y dysgai ereill oddiwrthynt i fod yn llonydd pan yn gysurus, ac i beidio anfoddloni i’w sefyllfa naturiol.

Ni waeth heb frenin na chael brenin mewn enw yn unig, ac y mae yn well bod heb frenin na chael unbenaeth gormesol.


Text viewBook