Folk Tale

Yr ysgyfarnog a’r bytheuad

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Bytheuad, wedi codi Ysgyfamog o dwmpath, a redodd ar ei hoi am yspaid; ond yr oedd yr Ysgyf­amog yn ei guro, ac fe ddiangodd. Bugail yn pasio heibio, a wawdiodd y Cî, gan ddywedyd fod y pryf yn gyflymach nag ef. “Yr ydych yn anghofio,” ebe y Cî, “mai un peth ydyw rhedeg am eich ciniaw, ond peth arall ydyw rhedeg am eich bywyd.”

Eto, y mae llaver yn ymdrechu mwy am y bwyd a dderfydd, nag am fywyd tragywyddol.


Text viewBook