Folk Tale

Yr ehedydd a’i rhai bychain

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd nythaid o rai bychain gan Ehedydd mewn cae o ŷd, yr hwn oedd bron yn aeddfed; a’r Fam, gan ddisgwyl bob dydd am y medelwyr, a adawai air bob tro yr ai hi allan i chwilio am ymborth, am i’r rhai bychain wrando, a hysbysu iddi hi, bob newydd a glywent. Un diwrnod, pan yr oedd hi yn absennol, daeth y perchennog i edrych ansawdd y cnwd. “Y mae yn hen amser,” ebe fe, “i alw i mewn fy nghymmydogion, a medi yr ŷd.” Pan ddaeth yr hen Ehedydd adref, adroddai y rhai ieuaingc i’w Mam yr hyn a glywsent, ac erfynient arni eu symud ymaith yn ddioed. “Mae yn ddigon buan,” ebe hithau, “os ymddirieda i’w gymmydogion, cŷst iddo aros dipyn eto cyn cael ei gynhauaf.” Dranoeth, daeth y gŵr drachefn, ac wrth weled yr haul yn boethach eto, a’r ŷd yn fwy aeddfed, a dim wedi ei wneyd, “Nid oes un munud i’w golli,” meddai, “nis gallwn ymddiried yn ein cymmydogion; rhaid i ni alw i mewn ein perthynasau,” a chan droi at ei fab, dywedai, “Dos, galw ar dy ewythr , siarad â’th gefnder: — a gwêl eu bod yn dechreu yforu.” Mewn braw mwy fyth, adroddai yr Adar Bach eiriau y ffermwr wrth eu Mam. “Os dyna y cwbl,” meddai hithau, “nac ofnwch, canys y mae gan y perthynasau gynhauaf eu hunain i’w gael i mewn; ond cymmerwch sylw manwl o’r hyn a glywch y tro nesaf, — a byddwch siwr o adael i mi wybod.” Aeth allan dranoeth drachefn, a’r ffermwr yn dyfod, fel o’r blaen, ac yn cael fod y grawn yn syrthio i’r ddaear, oblegyd ei fod yn ór-aeddfed, a neb heb ddechreu arno eto, a alwodd ei fab atto, gan ddywedyd, “Ni wiw i ni ddisgwyl wrth ein cymmydogion a’n perthynasau ddim yn hwy; ewch chwi a chyflogwch lafurwyr heno, a ni a ddechreuwn arno ein hunain yforu.” Pan adroddodd y rhai ieuaingc hyn wrth y Fam, — “Yna,” atebai hi, “y mae yn bryd i ni gychwyn yn wir; canys pan ymgymmero gŵr â rhyw orchwyl ei hun, yn lle ymddir­ied mewn ereill, gellwch benderfynu ei fod am ymosod atto o ddifrif.”

Haws i lawer un ymffrostio na chyflawni.


Text viewBook