Folk Tale

Y llwynog a’r draenog

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Llwynog, pan yn croesi afon, a gariwyd gan y ffrwd i ryw agen gul, ao a orweddodd yno yn hir, yn analluog i ddyfod allan, ac a orchuddiwyd gan haid o wybed mawrion a ddisgynasant arno. Draenog, yn digwydd pasio y ffordd hono, a’i gwelodd, a chan dosturio wrtho, a ofynodd a gai ef yru ymaith y gwybed oedd yn ei flino felly; ond y Llwynog a ddeisyfodd arno beidio gwneyd dim o’r fath beth. “Paham?” gofynai y Draenog. “Oblegyd,” meddai y Llwynog, “y mae y gwybed sydd arnaf yn awr, mor llawn eisoes, fel nad allant sugno llawer mwy o’m gwaed; ond os gyrwch chwi hwynt ymaith, daw haid o rai newydd a newynog yn eu lle, ac ni adawany ddyferyn o waed yn fy nghorph.”

O ddau ddrwg dewiser y lleiaf.


Text viewBook