Folk Tale

Y llygod a’r bronwenod.

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd y Llygod a’r Bronwenod wedi bod mewn rhyfel maith â’u gilydd, a chan fod y Llygod bob amser yn colli y frwydr, hwy a gytunasant o’r diwedd, mewn cyfarfod mawr, wedi ei alw i ystyried y mater, mae yr unig achos o’u haflwyddiant oedd, eu diffyg dysgyblaeth; a hwy a benderfynasant, gan hyny, i ddewis cadflaenoriaid rheolaidd, o hyny allan. Felly, fe ddewisasant y rhai yr oedd eu gwroldeb a’u medr yn eu cymhwyso fwyaf i’r swydd bwysig; — darfu i’r cadflaenoriaid newydd, yn falch o’u swyddau, ac yn dymuno cael gwneuthur eu hurddau mor amlwg ag oedd bossibl, rwymo cyrn ar eu talcenau, fel math o nôd ac arwydd o’u derchafiad. Yn fuan ar ol hyn cymmerodd brwydr le; y Llygod, fel arfer, a orchfygwyd yn fuan, a diangodd y Llygod cyffredin i’w tyllau; ond y cadflaenoriaid, yn methu myned i mewn i’r tyllau, o herwydd maint eu cyrn, a ddaliwyd, ac a laddwyd, bob un yn ddieithriad.

Nid oes nemawr dderchafiad heb ei berygl priodol yn gysylltiedig ag ef. — Y mae balchder yn dwyn aml un i brofedigaeth a magl.


Text viewBook