Folk Tale

Yr eryr a'r fran

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Disgynodd Eryr oddiar graig uchel ar gefn Oen, ac a'i cariodd ymaith yn ei grafangau. Coegfran yn digwydd gweled yr orchest, a feddyliodd y medrai yntau wneyd yr un peth, ac a ddisgynodd â'i holl nerth ar gefn Myharen, gan feddwl ei gario ymaith yn ysglyfaeth; ond glynodd ei ewinedd yn y gwlan, ac fe wnaeth y fath ystŵr wrth ymdrechu diangc, fel ydarfu i'r bugail, yr hwn a welodd trwy y mater, dd'od yno a'i ddal ef; wedi tori ei adenydd, fe'i dygodd adref i'w blant. "Pa aderyn yw hwn, ein tad a ddygasoch i ni? " gofynai y plant. " Wel," meddai yntau, "os gofynwch iddo ef, fe ddywed i chwi mai Eryr ydyw, ond os cymmerwch fy ngair I ar y mater mi a wn nad yw ef ond Coegfran."

Daw aml un i waradwydd a gwarth, trwy gamfarnu ei alluoedd ei hun.


Text viewBook