Folk Tale

Yr asyn synwyrol

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Yr oedd hên ŵr yn gwilio ei Asyn fel yr oedd yn pori mewn gweirglawdd frâs. Yn ddisymwth, canfyddodd y gelynion yn nesâu atto, ac a fynai i'r Asyn ffoi gydag ef mor ffastied ag y medrai. Ond gofynai yr Asyn iddo, "a wnai y gelyn roi dau bâr o gewyll ar ei gefn?" "Na," atebai y dyn, "nid oes dim perygl o hyny." "Wel, os felly," meddai yr Asyn, "ni redaf fi gam; canys pa wananiaeth yw i mi pwy fydd fy meistr, os yr un faint fydd fy maich dan bob un."

Y mae rhyfel yn gyffredin o fwy o bwys i'r llywodraethwyr nag i'r deiliaid. —Ni waeth y naill ormes na'r llall.


Text viewBook