Folk Tale

Y ddau ddwfr-lestr

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Dau Lestr, un o Brês a'r llall o Bridd, a gariwyd i lawr afon ar lifeiriant. Cynghorai y LIestr Prê;s ei gydymaith i gadw yn ei ochr ef, ac y gwnai efe ei amddiffyn. "Diolch i chwi am eich cynnyg," ebe y Llestr Pridd, "ond dyna'r peth sydd arnaf fi fwyaf a'i ofn; os cedweh chwi yn mhell oddi wrthyf, gallaf nofio i lawr yn ddiogel, ond os tarawn yn ein gilydd, myfi sydd yn sicr o ddyoddef."

Nid dâ ymwthio at gyfeillion galluoccach na ni, canys os digwydd ymrafael, y gwanaf a â i'r wal.


Text viewBook