Folk Tale

Y llew a’r morhwch

AuthorΑἴσωπος
Book TitleChwedlau Neu Ddammegion Aesop
LanguageWelsh
OriginGreece

Fel yr oedd y Llew yn rhodio ar fin y mor, fe welai Fôrhwch yn ymheulo ar wyneb y dwr, — fe’i gwahoddodd i ffurfio cynghrair ag ef, “Canys,” meddai, “gan fy mod i yn Frenin y bwystfilod, a chwithau yn Frenin y pysgod, fe ddylem fod y cyfeillion mwyaf, a’r cynghreiriaid ffyddlonaf.” Cydunodd y Môrhwch a’r cais hwn gyda’r parodrwydd mwyaf; — a’r Llew, ychydig wedi’n, yn digwydd bod mewn brwydr gyda Tharw gwyllt, a alwodd ar y Morhwch am y cynnorthwy cyfammodol. Ond pan nad allai, er yn awyddus i wneyd hyny, ddim dyfod allan o’r môr i’w helpu, cyhuddai y Llew ef o fod wedi ei fradychu ef. “Na feiwch fi,” ebe y Môrhwch, “ ond beiwch fy natur, yr hon, pa mor alluog bynag yn y môr, sydd yn hollol ddinrth ar y tir.”

Doethineb wrth ddewis cyfeillion, ydyw ystyried a oes ganddynt allu, yn gystal ag ewyllys i’n cynnorthwyo mewn amngen.


Text viewBook