Folk Tale
Y mynydd mewn trafael
| Author | Αἴσωπος |
|---|---|
| Book Title | Chwedlau Neu Ddammegion Aesop |
| Language | Welsh |
| Origin | Greece |
Yn yr hen amser gynt fe glywyd rhyw dwrw dirfawr oddifewn i Fynydd. Aeth y gair ar led ei fod mewn. trafael; ac ymgynnullodd Iluaws mawr o bobi o bell ac agos, i gael gweled ar ba beth yr esgorai y mynydd. Ar ol maith ddisgwyliad, a llawer o dybiau doethion gan yr edrychwyr, daeth allan o grombil y Mynydd. ——— LYGODEN! Addewidion a honiadau mawrion yn dibenu mewn cyflawniadau bychain.
Text view • Book